Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 23 Chwefror 2012

 

 

 

Amser:

13:20 - 14:56

 

 

 

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Julie James (Cadeirydd)

Byron Davies

Eluned Parrott

David Rees

Leanne Wood

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Iestyn Davies, Federation of Small Business

Debbie Scott, Groundsolve Ltd

Howard Allaway, Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW)

Rhidian Morgan, Partneriaeth Caffaeth Addysg Uwch De-orllewin Cymru (SWWHEPP)

Mark Barrow, Cyngor Dinas Birmingham

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Lara Date (Clerc)

Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc)

Robin Wilkinson (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

1.   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

 

 

</AI1>

<AI2>

2.   Ymchwiliad i ddylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael Ewrop: Sesiwn dystiolaeth

Croesawodd y Cadeirydd Iestyn Davies, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Debbie Scott, Groundsolve Ltd, Howard Allaway, Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch, Cymrua Rhidian Morgan, Partneriaeth Gaffael Addysg Uwch De-orllewin Cymru (SWWHEPP) i’r cyfarfod.

 

·         Roedd y Ffederasiwn Busnesau Bach yn gefnogol yn gyffredinol o egwyddorion y mesurau symleiddio yng nghynigion yr UE. Roedd y Ffederasiwn am weld y cynigion i rannu contractau yn lotiau yn cael eu cryfhau hyd yn oed ymhellach er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddangos pam mae amgylchiadau eithriadol i beidio â defnyddio lotiau ac i roi’r argraff bod lotiau yn adlewyrchu’r arfer gorau. Mae atal is-gontractwyr rhag cael eu talu’n hwyr hefyd yn bwysig wrth helpu busnesau bach a chanolig â llif arian. Roedd y Ffederasiwn yn croesawu’r cyfle i gael rhagor o drafodaethau ar y broses gaffael.

·         Nodwyd bod y materion caffael yng Nghymru yn ymwneud â diwylliant. Trafodwyd yr angen i wario arian cyhoeddus er lles y cyhoedd, ond codwyd cwestiwn ynghylch beth, mewn gwirionedd, yw lles y cyhoedd – nodwyd bod lles y cyhoedd yn ymwneud â chymunedau a busnesau cynaliadwy, ac mae gwerth am arian yn rhan o hynny. Nodwyd rhai enghreifftiau o arfer da ym maes caffael yng Nghymru ac mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i ganmol y rheini gan sicrhau eu bod yn cael eu rhannu â’r gymuned gaffael gyfan.

·         Nodwyd bod yr holiadur cyn-gymhwyso yn broblem i fusnesau bach a chanolig. Nodwyd bod tuedd i’r broses holiadur cyn-gymhwyso fynd yn fwy cymhleth gydag amser wrth i bobl ychwanegu at y gofynion. Croesawyd Cronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID), ond mae eisoes yn ofynnol yn y sector adeiladu i dalu am gofrestru gwybodaeth ar Constructionline, felly roedd pryderon ynghylch dyblygu gwaith a chost gwahanol fesurau i gadw data cyflenwyr. Nododd y sector addysg uwch y gallai dull o weithio SQuID, sydd ar sail risg, fod o fantais mawr wrth helpu awdurdodau sy’n contractio i ganolbwyntio ar yr hyn y maent yn ei gaffael, ac i ofyn i gyflenwyr am faint priodol o wybodaeth a sicrhau lefel briodol o graffu ariannol.

·         Dylid teilwra system SQuID yn briodol i gyd-fynd â gofynion cyfreithiol maint y busnes o dan sylw, er enghraifft, o safbwynt gofynion iechyd a diogelwch, fel na fydd busnesau llai yn gwneud eu hunain yn anghymwys drwy ymddangos fel pe na baent yn cwrdd ag anghenion y rheolau. Rhoddwyd cymorth i ficrofusnesau ar gyflwyno tendrau, ond mae angen hyfforddiant hefyd ar y rhai sy’n asesu cynigion i sicrhau eu bod yn deall y gofynion cyfreithiol ar gyfer busnesau llai.

·         Roedd lefel yr yswiriant sy’n angenrheidiol mewn manylebau hefyd yn rhwystr i ficrofusnesau, a dylai awdurdodau lleol ystyried a yw lefel yr yswiriant y maent yn gofyn amdani’n briodol o ran y risg neu’n afresymol o uchel.

·         Nodwyd bod dull o weithio’r sector addysg uwch yn dibynnu ar faint a math y contract, ac anogwyd busnesau bach a chanolig i wneud cynnig. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallent fethu â bodloni meini prawf gofynnol y cyfnod cyn-gymhwyso ar gyfer rhai cytundebau fframwaith mwy, a thrwy hynny, yn cael eu heithrio. Roedd llawer o gytundebau cydweithio yn y sector addysg uwch ledled y DU. Byddai gan Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch, Cymru gyfraniad i’w wneud ar y strategaeth a sut y mae modd strwythuro’r contract, ond nid o reidrwydd sut y caiff ei reoli yn gyffredinol. Nid yw rhannu contractau cenedlaethol y sector addysg uwch yn lotiau yng Nghymru bob amser yn bosibl i gytundebau cenedlaethol mawr ac mae’n dibynnu ar y nwyddau sy’n cael eu prynu.

·         Rhoddwyd esiampl ‘wrthun’ o’r posibilrwydd y gallai cwmni bach fethu â chael contract ar sail trosiant/capasati, gan ennill rhywfaint o’r busnes fel is-gontractwr i’r contractwr mwy a enillodd y contract, gan ddarparu rhan o’r gwasanaeth am gost mwy na phe bai’r awdurdod a oedd yn cynnig y contract wedi defnyddio’r cwmni’n uniongyrchol yn lleol. O ganlyniad, gallai sefydliadau’r sector cyhoeddus dalu mwy am wasanaethau, ond eu bod yn dewis y llwybr hwn gan ei fod yn lleihau’r costau gweinyddol sy’n gysylltiedig â rheoli mwy nag un darparwr.

·         Nododd y Ffederasiwn Busnesau Bach yr effaith y mae taliadau hwyr yn ei chael ar fusnesau bach a chanolig sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau fel is-gontractwyr - mae angen gwelliannau yn hyn o beth. Cadarnhaodd y sector addysg uwch y bydd y graddau y bydd y sector addysg uwch yn monitro ac yn rheoli taliadau i is-gontractwyr yn dibynnu ar adnoddau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gallai’r sector roi mwy o sylw i hyn yn y dyfodol.

·         Mae’r sector addysg uwch yng Nghymru yn ystyried cost ‘oes gyfan’ wrth ddod i gasgliadau am werth am arian gan ystyried polisi lles y gymuned yn gynyddol wrth lunio manylebau caffael, ond nid oedd yn glir i ba raddau roedd hyn yn digwydd ar draws y sector addysg uwch yn y DU o ran cytundebau Lloegr. Ystyriwyd bod cymalau cymdeithasol ac amgylcheddol yn fwy priodol ar gyfer prosiectau ystadau ac adeiladu o ran gwaith caffael yn y sector addysg uwch. Er enghraifft, roedd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn arwain y farchnad ym maes caffael bwyd cynaliadwy yn y sector addysg uwch yng Nghymru - mae pob un o arferion y Brifysgol Fetropolitan, sy’n ymwneud â chaffael bwyd ar ran Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch, Cymru, ar gael i bob sefydliad y Consortiwm.

·         Nododd Groundsolve fod cwmnïau mwy sy’n ennill contractau ac yr oedd gofyn iddynt gyflogi’n lleol a defnyddio cwmnïau lleol yn aml yn defnyddio digwyddiadau ‘cwrdd â’r prynwr’ er mwyn bodloni amodau’r contract. Gallai hyn olygu llawer o deithio i gwmnïau bach a chanolig, heb sicrwydd o ennill gwaith yn lleol, yn enwedig yng Ngogledd Cymru. Nodwyd bod busnesau bach a chanolig yn colli diddordeb yn y dull hwn o weithio. Mae potensial i gyrff cyhoeddus rannu arfer da gan ddysgu ar draws ffiniau awdurdodau lleol i atal dulliau ‘ticio’r blwch’ o weithio, gan weld awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn cynnal perthynas mwy hirdymor â darparwyr. Drwy hyn, gellir meithrin ymdeimlad o berchnogaeth er mwyn gweld twf a chynaliadwyedd busnesau lleol. Nodwyd yr esiampl o ysbyty Ystrad Mynach yn cael ei adeiladu heb ddefnyddio unrhyw nwyddau gan wneuthurwr briciau lleol.

·         Dylid rhoi mwy o bwys ar gynnig gwerth i gymunedau lleol a llai o bwys ar bryderon ar sail osgoi risg nad oedd cwynion ynghylch cwmnïau lleol yn ennill busnes.

·         Mae egwyddorion caffael a thendro ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru yn debyg yn gyffredinol, er nad yw’r union bolisïau gweithdrefnau, y broses dendro ffurfiol a’r trothwy sy’n cael eu defnyddio yr un fath: mae sefydliadau llai fel arfer yn defnyddio trothwy is.

·         Nododd y Ffederasiwn Busnesau Bach, er bod caffael yn gyffredinol yn rhan o bortffolio’r Gweinidog Cyllid, y Gweinidog Menter sy’n gyfrifol am ei ddefnyddio fel offeryn er twf economaidd, a gallai hyn arwain at ddeddfu ddwywaith ar yr un mater, er enghraifft, gan osod gofynion iechyd a diogelwch beichus ar fusnesau bach. Dangosodd fod y cydbwysedd yn pwyso mwy ar ddiwydrwydd ac atebolrwydd ariannol yn hytrach nag ar sylweddoli’r potensial caffael.

·         Nododd cynrychiolydd Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch, Cymru, pe bai rhannu contractau yn lotiau’n digwydd mewn modd a oedd yn briodol i bob contract penodol, na ddylai, fel arfer, fod yn faich gormodol ar y prynwr. Byddai cyfle i’r prynwr gyfrannu at gytundebau drwy grwpiau nwyddau’r sector addysg uwch yn genedlaethol, Cymru gyfan ac yn benodol i’r consortiwm i sicrhau bod y strategaethau contractio yn diwallu’r anghenion.

·         Nododd y Ffederasiwn Busnesau Bach y dylai’r diwylliant o wario ar fusnesau bach a’r diwylliant o ystyried y sector cyhoeddus fel stiward ar arian cyhoeddus ddod at ei gilydd er mwyn hyrwyddo’r egwyddor bod gwario arian yn lleol yn arwain at gymunedau busnes a sector addysg gynaliadwy ac economi iach. Yr unig ffordd o wneud hyn yw sicrhau ymgysylltiad prynwyr a busnesau bach. Dywedodd un o’r tystion, “it cannot be done as a tick-box exercise over a congealed bacon sandwich in a hotel.”

·         Yn dilyn y cyfarfod, cyflwynodd ConstructionSkills Wales rhagor o wybodaeth am ymateb y CBI i’r Cyfarwyddebau drafft ac i gynnig deddfwriaethol gan yr UE ar fynediad trydedd wlad i’r farchnad sengl.

 

 

 

 

</AI2>

<AI3>

3.   Ymchwiliad i ddylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael Ewrop: Sesiwn dystiolaeth (drwy gynhadledd fideo)

Croesawodd y Cadeirydd Mark Barrow o Gyngor Dinas Birmingham i’r cyfarfod.

·         Disgrifiodd Cyfarwyddwr Datblygu Cyngor Dinas Birmingham ddull y Cyngor o ddefnyddio caffael cyhoeddus i fuddsoddi yn yr economi leol. Mae Birmingham yn wynebu ‘sialensiau enfawr’ wrth fynd i’r afael â’r lefel o ddiweithdra’n lleol.

·         Mae’r Cyngor yn gweithio gydag awdurdodau eraill a phartneriaid ar Banel Cynhwysiant Economaidd Gorllewin Canolbarth Lloegr, gan ganolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud ar y cyd, drwy ddylanwad gwaith caffael, i gefnogi twf yn yr economi leol ac wrth ddatblygu’r gadwyn gyflenwi, a hynny o fewn y gyfraith.

·         Mae’r gwaith yn ymwneud â defnyddio grym stiwardiaeth y sector cyhoeddus i gefnogi datblygiadau lleol gan gynnal cystadleuaeth a fframwaith caffael iach.

·         Comisiynwyd cwmni o arbenigwyr cyfreithiol i ddyfeisio fframwaith er mwyn dechrau pennu faint y mae’r rhai sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau’n defnyddio’r economi leol - mae dros £5 biliwn o wariant wedi mynd drwy’r fframwaith. Mae hyn hefyd yn cydfynd â chaniatâd cynllunio i annog datblygwyr i gyflogi pobl leol a fu’n ddi-waith am gyfnod hir.

·         Ochr yn ochr â’r fframwaith, mae pecyn cymorth ar gael ar-lein sy’n cynnig arweiniad ymarferol penodol ar sut mae cynnwys cymalau cymdeithasol mewn contractau. Mae’r pecyn wedi ei brofi’n helaeth ar lefel yr UE gyda’r Uned Cymorth Gwladwriaethol, ac mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ei gefnogi.

·         Ochr yn ochr â hynny, datblygwyd ‘e-Bay i fusnesau’, o’r enw FindItInBirmingham.Com i gefnogi busnesau bach a chanolig drwy hysbysebu cyfleodd i fusnesau lleol wneud cais i fod yn rhan o gadwyn gyflenwi. Mewn 18 mis mae £3.7 biliwn o gytundebau’r sector preifat wedi bod trwy borth ar-lein ac mae 10,000 o gwmnïau wedi cofrestru.

·         Mae sefydlu rhwydwaith o ficrofusnesau sy’n gweithio mewn amgylchedd â chefnogaeth yn caniatáu i’r Cyngor greu cyfleoedd a defnyddio ei ddylanwad i’w symud ymlaen yn economaidd, ac i ddatblygu dealltwriaeth a gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, ac am feysydd sy’n datblygu yn yr economi lleol.

·         Birmingham yw’r cyngor mwyaf yn y wlad ac mae’n cynnig elfen o arweiniad rhanbarthol, gan ddarparu fframwaith sy’n eiddo deallusol agored ac ar raddfa sy’n galluogi cynghorau llai i’w ddefnyddio, fel bod pawb ar eu hennill.

·         Mae’r rhwydwaith sy’n dod â 33 o gynghorau gorllewin canolbarth Lloegr at ei gilydd, yn gefnogol o’r dull hwn o weithio, gan ei ddefnyddio yn sail i arferion caffael a rheoliadau ariannol yn yr awdurdodau hynny. Mae Prif Weithredwyr Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol yn rhan o’r gwaith hefyd. Unwaith yr enillwyd cefnogaeth y mwyafrif roedd yr awdurdodau nad oeddent yn rhan o’r cynllun yn amlwg, a byddai gwleidyddion yn eu herio ynghylch pam nad oeddent yn rhan ohono.

·         Mae cyrff cyhoeddus gan gynnwys cyrff iechyd, yr heddlu a’r frigâd dân wedi ei fabwysiadu hefyd, yn ogystal â rhai prifysgolion. Mae’n cael ei ddefnyddio i gyrraedd targed i gynnwys 60 y cant o ddarparwyr lleol yn y prosiect adeiladu £1.5 biliwn ar gyfer ysbyty newydd yn y rhanbarth. Mae asiantaethau’r Llywodraeth, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Byd Gwaith hefyd yn ymwneud â gwaith y Panel.

·         Roedd y diwydiant adeiladu yn gefnogol iawn o’r fframwaith adeiladu, gan ddeall pwysigrwydd ei ddefnyddio fel modd o ddatblygu gallu lleol o ran sgiliau adeiladu.

·         Bu’r fframwaith ar waith am 18 mis, a bydd y gwaith yn cael ei adolygu a’i asesu ar ôl dwy flynedd, gan gynnwys meincnodi data. Fodd bynnag, roedd y data cychwynnol yn galonogol. Credir bod modd i gynghorau eraill ei fabwysiadu, gan gynnwys cynghorau Cymru. Roedd y cyngor hefyd yn agored i rannu ei brofiad yn fwy helaeth, gan fentora gwaith tebyg mewn rhannau eraill o’r DU.

·         Mae cael prosesau asesu risg, sy’n addas i’r diben, ar waith yn galluogi’r sefydliad i wynebu risg yn well gan fod yn fwy hyderus wrth reoli risg.

 

 

 

 

</AI3>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>